Fy Nghefndir

Dwi wedi bod yn gweithio fel actores ers 1970 a wedi bod yn dyst i’r datblygiadau yn y maes yn y ddwy iaith ers bron i hanner canrif. Mae mhrofiad o ran yr iaith Gymraeg yn cynnwys y cyfnod cyn dyfodiad s4c,(ac mi fum yn rhan o’r ymgyrchu), cyfnod cadarnhaol ac optimistic dyddiau cynnar s4c, a’r diywiad yn dilyn y toriadau enbyd, Yn y Saesneg, mae gen i gof fel gwyliwr, o’r BBC yng Nghaerdydd fel canolfan ar gyfer dramau rhwydwaith yn y 50au a’r 60au, yr ymdrechion trist i greu cyfresi i blesio Llundain trwy’r degawdau ar ol hynny, gwychder ein opera sebon gynhenid Belonging, ac yna ein boddi gan gynyrchiadau gwbl Seisnig fel Dr Who a Casualty o Loegr, cyn i’r cynhyrchwyr o America gyrraedd.

Y Darlun Presennol

Mae’n dristwch mawr i mi erbyn hyn i weld ein dramau cynhenid yn y ddwy iaith yn diodde.

S4C

Mae’r cyllidebau bach iawn yn golygu ei bod hi bron yn amhosib creu dramau o safon heb i’r criwiau technegol a’r actorion gyfaddawdu ei crefft. Mae’r gorfodaeth i wasgu gormod i’r diwrnodau sy’n barod yn hirfaith yn creu amodau amhosib. Wrth i’r esgid wasgu mae'r cyd-gynhyrchiadau cefn wrth gefn, wedi ei ysgrifennu yn Saesneg, a’i cyfarwyddo,  gan fwyaf gan rhai sydd ddim yn medru’r Gymraeg yn cyfaddawdu’r cynhyrchiadau mhellach. Gwelon y sefyllfa chwerthinllyd Un Bore Mercher ble roedd y brif actores hyd yn oed ddim yn medru’r Gymraeg, a’r pennodau ddeg munud yn fyrrach yn y fersiwn Gymraeg oedd yn golygu bod y plot hefyd bron yn anealladwy. Mae Craith hefyd yn engraifft o ddiffyg parch at y Gymraeg sy’n anwybyddu natur dafodiaethol y Gymraeg. Mae’r dramau yma’n cael ei castio gan Saeson o Lundain sy’n parchu actorion sy’n enwog yn Lloegr, ac yn anwybyddu llawer o’n actorion gorau ni.

 

BBC Cymru

Mae BBC Cymru wedi methu cyflwyno dramau cynhenid Cymraeg ers diwedd Belonging, arwahan i’r cyfresi crybwyllwyd uchod, ar gefn yr iaith Gymraeg.

 

Dyfodiad y Cwmniau Ffilm Mawr

Mae’r cwmniau yma i’w croesawu os ydyn nhw o fudd diwyllianol yn ogystal ac economiadd. Yn anffodus ar hyn o bryd mae ei dyfodiad yn teimlo fel coloneiddio artistic wrth iddyn nhw dderbyn arian mawr oddiwrth ein Llywodraeth heb fuddsoddi o gwbl yn ein hawduron, ein cyfarwyddwyr nac yn  sicr ein hactorion.  Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn cynnig mwy na briwsion i ni. Dy’n nhw ddim yn dweud ein straeon ni, nag yn adlewyrchu beth yw hi i fod yn Gymry heddiw. Mae’n amhosib i gwmniau bach Cymreig i ddefnyddio ei hadnoddau ysblenydd am ei bod yn llawer rhy ddrud ar gyllideb drama s4c, sy tua 200,000 yr awr. Mae’r cwmniau yma, fel y pwyslais ar y Saesneg yn y cynhyrchiadau cefn wrth gefn, yn ein hatgoffa drosodd a throsodd  bod ein hunaniaeth ni yn amherthnasol, yn ddibwys ac yn israddol.

 

Casgliad

Wrth i Brexit daflu ei gysgod drosom ni, ynghyd a’r posibilrwydd bydd iwerddon yn unedig eto, a’r Alban yn annibynnol, mae’n gwbl anghenrheidiol bod ganddon ni gyfryngau creadigol yn y ddwy iaith sy’n adlewyrchu Cymru, nid diwyllianau estron.