Mae byd ffilm yn amgenach na Hollywood, diolch byth.  Mewn gwrionedd, mae cynhyrchu ffilmiau yn dalcen calen.  Unigolion ymroddedig mewn swydfeydd bach ydyn ni.  Rhwydd anghofio hynny a chael eich dallu gan yr enwau mawr fel Pinewood.  Mae’n hollbwysig sicrhau lleoedd  i gynhyrchwyr wrth y bwrdd wrth drafod a llunio polisi yn y dyfodol.  Gobeithio bydd y llywodraeth yn dilyn esiampl y pwyllgor hwn.

Cwmni bach yn llwyddo

Mae Truth Department yn cynhyrchu ffilmiau i’r farchnad ryngwladol.  Mae’n ffilmiau yn cael eu dangos mewn gwyliau o’r radd flaenaf, yn ennill gwobrau mawr ac yn cael eu gwerthu i ddosbarthwyr ledled y byd.  Mae cynhyrchiadau ffilm yn gallu dod â budd mawr i’r economi trwy gyflogau, a rhoi gwlad fach ar y map.  Fel bron pob cwmni cynhyrchu ffilmiau annibynnol, mae’r cynhyrchydd yn gweithio mewn swyddfa fach, fel arfer gydag un neu ddau gyflogai parhaol yn unig, a rhwydwaith o bobol yn gweithio’n llawrydd iddo.

Model busnes diffygiol

Mae gwneud busnes parhaol o gynhyrchu ffilmiau’n anodd iawn.  Mae’n risg i’r cynhyrchydd yn uchel bob tro.  Mae’r farchnad yn gystadleuol iawn ac yn newid yn glou.  Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae’n amhosibl amddiffyn ffilmiau rhag cael eu gwylio am ddim.  Y cwmni cynhyrchu yw’r ola o bawb i gael elwa, os oes elw o gwbl.  Mae ond yn bosibl parhau trwy gymorth gwlad a phen galed.

Cymorth gwlad

Yn y DU, mae’r credyd treth i gynhyrchwyr ffilmiau (UK Film Tax Relief) wedi gwneud gwahaniaeth mawr.  Mae’r cynhyrchydd yn gallu hawlio’n ôl un bunt am bob pedair mae’n gwario ar gynhyrchu yn y DU.  Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o’r arian yn cael ei buddsoddi yn y ffilm ei hun, ond o leiaf mae gwneud ffilmiau yn y DU yn rhatach nag y byddai fel arall.  Mae hyn yn gwneud y DU yn ddeniadol i gynhyrchwyr o dramor ac yn cryfhau sefyllfa cynhyrchwyr yma.  Fyddai Truth Department ddim wedi goroesi cyhyd hebddo.  Does neb sicrwydd am ba hyd bydd y polisi’n goroesi.

Cropian cyn cerdded

Mae cynhyrchwyr fffilmiau annibynnol yn dechrau trwy gynhyrchu ffilmiau gyda chyllidebau cymharol fach, e.e. ffilmiau dogfen, neu ffilmiau gyda chast bychan heb effeithiau drudfawr.  Trwy brofi ei hun gyda chyllideb fach, mae’r cynhyrchydd yn gallu denu buddsoddiad mewn ffilmiau drutach.  Gallai Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth mawr i’r sector yn y tymor hir trwy roi cymorth i’r cynhyrchwyr cynhenid sydd ar hyn o bryd yn cynhyrchu ffilmiau ar gyllidebau bach.

MIB a Pinewood

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y sector trwy’r gronfa MIB.  Mae’n debyg taw denu cynhyrchiadau mawr o dramor yw’r nôd.  Mae lle i hyn mewn unrhyw strategaeth wladol - mae pob cynhyrchiad yn talu cyflogau ac yn gwario ar wasanaethau lleol wedi’r cyfan.   

Mae nifer o anfanteision i’r polisi.  Yn gynta, dyw’r effaith ddim yn debyg o bara’n hirach na’r gefnogaeth ei hun.  Os bydd y gronfa’n dod i ben, neu os bydd cronfa fwy deniadaol yn rhywle arall, daw’r cynhyrchiadau a’r swyddi i ben, a’r gweithwyr yn gorfod gadael Cymru i ddilyn y swyddi.

Dim ond ffilmiau gyda chyllidebau yn uwch na £1.5M sydd yn gymmwys i geisio am gronfa MIB. Ac mae’n debyg bod y costau cyfreithiol bob tro yn affwysol o uchel.  Mae ond yn gwneud synwyr busnes i’r cynhyrchiadau mwya drudfawr ddefnyddio’r gronfa. Mae hyn yn cau  allan cynhyrchwyr

lleol.

Mae’r gronfa MIB hefyd yn gaeëdig i gynhyrchwyr dogfen sydd â diddordeb yn y byd tu hwnt i Glawdd Offa.  Mae’n amhosibl cysoni’r angen i ffilmio tramor gyda’r gofyniad gan y gronfa i wario’n helaeth yn lleol.  Mae goblygiadau i iechyd diwylliant Cymreig os cyfyngir ein canfas i Gymru’n unig.  

 

Yn ola, mae perchnogaeth y ffilmiau hyn (underlying Intellectual Property) yn rhywle arall.  Yn ymarferol felly, mae arian trethdalwyr yn cael ei wario er budd perchnogion tu hwnt i Gymru.  Hen stori yw hyn: Cymru fel estyniad o economi rhywle arall.  Y gangen yw’r rhan gynta i gael ei thorri, er mwyn amddiffyn y canol.

Hybu cynhyrchwyr cynhenid

Os am ddatblygu’r diwydiant i’r hir dymor, rhaid cefnogi cynhyrchwyr yn lleol.  Gellid ystyried sawl ffordd i gyflawni hyn:

Yn gyntaf, byddai’n bosibl addasu cronfa MIB trwy ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchiadau o dramor gyd-gynhyrchu gyda chynhyrchwyr addas yng Nghymru, os am gael dwylo ar yr arian. Gofyniad digon cyffredin yw hyn.  Byddai cynhyrchwyr Cymru yn derbyn ffi, ond mae’n bosibl byddai’r budd mwyaf yn dod o gael enw ar ffilm fawr a pherthynas weithiol gyda chwmni mawr. (Os am gymhwyso cynhyrchwyr, Ffilm Cymru fyddai’r corff mwyaf gwybodus yn y maes.)

Mae seilwaith yn bodoli’n barod ar gyfer hybu talent cynhyrchu o Gymru, sef Ffilm Cymru.  Mae Ffilm Cymru yn gwneud gwaith glew iawn gydag arian bach (o’r Loteri - ddim o goffrau Llywodraeth Cymru).  Mae ganddyn nhw lai na £1M y flwyddyn i’w gwario bob blwyddyn ar bob dim - cynhyrchiadau, datblygu, arddangos, staff, cefnogi cwmnïau.  Byddai arian ychwanegol yn eu coffrau’n mynd ymhell - heb yr angen i wario ar greu corff arall.   

Mae’n werth ystyried mwy nag un ffordd i fuddsoddi.  Er enghraifft, byddai MIB ar ei newydd wedd yn gallu parhau i ddenu cynhyrchiadau tramor (yn cadw’r rheol o luosi’r buddsoddiad mewn gwariant lleol).  Ar yr yn pryd, gellid agor cronfa arall ar gyfer tyfu busnesau cynhenid i’r hir dymor - ar gyfer ffilmiau llai drud, a heb yr un anghenion gwariant lleol fel bod modd i’r cynhyrchydd gau cyllideb trwy gyd-gynhyrchu gyda gwlad arall ac fel bod dogfenwyr yn gallu gwneud ffilmiau am y byd amgenach.

Mae lle i ddarlledwyr Cymreig chwarae rhan trwy sefydlu slotiau pwrpasol ar gyfer ffilmiau o Gymru - boed yn ddogfen, neu wedi’u sgriptio.  Yn ddiweddar, pitw iawn fu eu cyfraniad.  Dyw ITV Cymru ddim yn mentro dim.  Mae'n debyg bod BBC Cymru wedi buddsoddi ffi drwydded awr mewn un ffilm ddogfen yn ddiweddar - ond dim byd arall.  Mae S4C yn comisiynnu ffilm deledu o dro i dro - efallai unwaith bob blwyddyn neu ddwy, ac hynny heb adael argraff ar y farchnad ffilm na chynulleidfaoedd rhyngwladol.   

 

BBC Storyville yw’r unig slot rheolaidd ar gyfer ffilmiau dogfen hir yn y DU - a hynny ar gyfer ffilmiau o ar draws y byd i gyd.  Felly mae cynhyrchydd ffilm ddogfen o Gymru’n aml yn gorfod mynd yn waglaw i’r cyfandir a thu hwnt i godi arian ar gyfer ffilmiau o Gymru.  Byddai slot pwrpasol ar gyfer ffilmiau dogfen hir - efallai trwy gyd-weithrediad BBC ac S4C - yn gwneud byd o wahaniaeth.  A’r un peth gyda ffuglen wrth gwrs.

Mae’n werth edrych ar wledydd eraill i gael penderfynnu ar y ffordd ymlaen.  Cyhoeddodd Creative Scotland strategaeth £9m newydd ar gyfer hybu’r sector ym mis Rhagfyr 2017, sy’n cynnwys £4m ar gyfer datblygu ffilmiau gan wneuthurwyr yr Alban (cymharer â £1M Ffilm Cymru ar gyfer popeth).  Boed trwy grantiau, llochesi treth, neu ddyfeisiadau eraill, mae gwledydd bach fel Iwerddon a Lwcsembwrg i gyd wedi ffeindio eu ffyrdd eu hunain i hybu’r sector.  Byddai arolwg o’r rhein yn ddefnyddiol iawn.  Beth am gael Ffilm Cymru neu’r ystadegydd Stephen Follows i baratoi adroddiad cymhariaethol cyn gwneud penderfyniadau hir-dymor?

 

Mae tyfu sector cynhyrchu cynhenid, hynny yw, cynhyrchwyr ffilm yng Nghymru, yn broses sydd angen buddsoddiad gofalus a hir-dymor cyn bydd hi’n dwyn ffrwyth.  Ond o wneud hynny, gallwn dyfu diwydiant llewyrchus a rhoi llwyfan byd i dalent Cymreig.